Llenyddiaeth Cymru yw’r Cwmni Cenedlaethol gyda chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth yng Nghymru. Mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnwys Yr Academi Gymreig – y gymdeithas llenorion, a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnal cystadlaethau, cyrsiau, cynadleddau, stompiau, gornestau beirdd v rapwyr, teithiau gan awduron, digwyddiadau Maes C, darlleniadau, gwyliau a nifer fawr eraill. Yr Academi sydd hefyd yn gyfrifol am brosiectau Bardd Cenedlaethol a Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, ac yn ymwneud â chynllun Bardd Plant Cymru.

Mae’r Academi’n falch iawn o dderbyn Dyfarniad Cwmni Disglair gan Gyngor Celfyddydau Cymru 2008 - 2010. 

www.llenyddiaethcymru.org

Teitlau'r lluniau: Eurig Salisbury, Seremoni Llyfr y Flwyddyn 2009, Liam Johnson yng nghystadleuaeth John Tripp, y Bardd Cenedlaethol Gillian Clarke, aelodau o Sgwadiau `Sgwennu’r Ifainc gyda Robert Minhinnick yn y Senedd.