Dolenni


Dolenni


Llenyddiaeth Cymru - http://www.llenyddiaethcymru.org

Llenyddiaeth Cymru

Llenyddiaeth Cymru yw’r Cwmni Cenedlaethol gyda chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth yng Nghymru. Mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnwys Yr Academi Gymreig – y gymdeithas llenorion, a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.Mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnal cystadlaethau, cynadleddau, stompiau, gornestau beirdd v rapwyr, teithiau gan awduron, digwyddiadau Maes C, darlleniadau, gwyliau a nifer fawr eraill. Llenyddiaeth Cymru sydd hefyd yn gyfrifol am brosiectau Bardd Cenedlaethol a Gwyddoniadur Cymru, ac yn ymwneud â chynllun Bardd Plant Cymru. Noddir Llenyddiaeth Cymru gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

» http://www.llenyddiaethcymru.org


Taliesin - http://taliesin.academi.org/

Taliesin

Cylchgrawn llenyddol yn yr iaith Gymraeg yw Taliesin, ac fe’i cyhoeddir deirgwaith y flwyddyn gan yr Academi Gymreig gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru. » http://taliesin.academi.org/


Sgwadiau `Sgwennu'r Ifainc - http://www.writingsquads.org/

Sgwadiau `Sgwennu'r Ifainc

Nod Sgwadiau `Sgwennu'r Ifainc yw dod o hyd i ysgrifenwyr disglair ym mhob rhanbarth - boed hynny trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg - a'u cyflwyno i rai o brif awduron a thiwtoriaid creadigol Cymru. Tros y ddegawd a fu, mae'r Academi wedi datblygu nifer o Sgwadiau `Sgwennu trwy gydweithrediad awdurdodau lleol ledled Cymru.

» http://www.writingsquads.org/


Casglu'r Tlysau - http://www.gtj.org.uk/

Casglu'r Tlysau

Dros 30,000 o ddelweddau o wrthrychau, llyfrau, llythyrau, awyrluniau ac eitemau eraill o amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd ledled Cymru.

 

 

» http://www.gtj.org.uk/