Saunders Lewis - 1893 -1985
6 Wilton Street, Liscard, Wallasey, Swydd Gaer
Portread o Saunders Lewis. Hawlfraint: Cyngor Celfyddydau Cymru / Llun o'r plac ym man geni Saunders Lewis, 6 Wilton Street, Liscard, Wallasey, Swydd Gaer. Hawlfraint: Dr John G. Williams
Dramodydd, bardd, hanesydd a beirniad llenyddol. Ystyrir yn gyffredinol mai John Saunders Lewis yw prif ffigur llenyddol Cymraeg yr ugeinfed ganrif. Fe'i ganed yn Wallasey, sir Gaer, i deulu o Fethodistiaid Calfinaidd amlwg - yr oedd ei dad a'i daid ar ochr ei fam yn weinidogion - ac addysgwyd Saunders Lewis yn Ysgol Uwchradd Liscard i Fechgyn ac ym Mhrifysgol Lerpwl, lle yr astudiodd Saesneg a Ffrangeg. Torrwyd ar draws ei gwrs gan y Rhyfel Byd Cyntaf; bu'n swyddog gyda'r Cyffinwyr De Cymru yn Ffrainc, yr Eidal a gwlad Groeg. Ar ôl y rhyfel dychwelodd i Brifysgol Lerpwl a graddio gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Saesneg, gan fynd ymlaen i ysgrifennu traethawd ar ddylanwadau Seisnig ar farddoniaeth glasurol Gymraeg y ddeunawfed ganrif; yr oedd hwn yn sail i'w lyfr A School of Welsh Augustans (1924). Bu'n llyfrgellydd ym Morgannwg am flwyddyn ac yna ymunodd ag Adran Gymraeg Coleg y Brifysgol Abertawe yn 1922 fel Darlithydd.
Yn 1925 yr oedd Saunders Lewis yn un o'r cwmni a gychwynnodd Blaid Genedlaethol Cymru (Plaid Cymru yn ddiweddarach) a'r flwyddyn ddilynol fe'i gwnaethpwyd yn Llywydd arni. Fe'i derbyniwyd yn aelod o Eglwys Rufain, y buasai yn ysgrifennu o'i phlaid ers rhai blynyddoedd, yn 1932. Yn 1936 cyflawnodd ef ynghyd â D. J. Williams a Lewis Valentine weithred symbolaidd o ddifrodi trwy dân ddefnyddiau adeiladu a oedd wedi eu cynnull er mwyn codi Ysgol Fomio ar gyfer y Llu Awyr Brenhinol ym Mhenyberth, Caern., digwyddiad a adwaenir fel y Tân yn Llŷn. Ar ôl ei ryddhau o'r carchar a'i ddiswyddo o'i waith yn Abertawe fe'i cynhaliodd ei hun drwy newyddiadura, dysgu mewn ysgolion, ffermio a pheth gwaith arolygu ysgolion cyn cael ei benodi yn 1952 yn Ddarlithydd ac yn ddiweddarach yn Uwch-ddarlithydd yn Adran Gymraeg Coleg y Brifysgol, Caerdydd. Yn ystod y cyfnod hwn ymwrthododd yn raddol â'r rhan fwyaf o'i weithgarwch penodol
boliticaidd. Yr oedd yn newyddiadurwr politicaidd cynhyrchiol a medrus, yn enwedig yn Y Ddraig Goch (1926-37) ac yn Baner ac Amserau Cymru (1939-51); casglwyd ynghyd ei ysgrifau o'r cyfnod cyntaf yn y gyfrol Canlyn Arthur (1938). Yn 1957 ymddeolodd i'w gartref ym Mhenarth, ger Caerdydd, i ymroi i ysgrifennu, er iddo barhau i wneuthur datganiadau o bryd i'w gilydd ar gyflwr politicaidd ac ysbrydol cenedl y Cymry; bu'r enwocaf o'r datganiadau hyn, Darlith Flynyddol BBC Cymru ar gyfer 1962, Tynged yr Iaith, yn ddylanwad pwerus ar ddatblygiad cynnar Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Syfrdanol yw'r unig air cymwys i ddisgrifio camp Saunders Lewis: rhagorodd fel ysgolhaig ac fel llenor creadigol, ac ymhob genre yr ymgymerodd ag ef. Y mae'r cofnod hwn, fodd bynnag, yn ymdrin â'i weithiau creadigol a beirniadol yn unig. Cyhoeddwyd un ar hugain o'i ddramâu, sef The Eve of St John (1921), Gwaed yr Uchelwyr (1922), Buchedd Garmon (1937), Amlyn ac Amig (1940), Blodeuwedd (1948), Eisteddfod Bodran (1952), Gan Bwyll (1952), Siwan (1956), Gymerwch Chi Sigarét? (1956), Brad (1958), Esther (1960), Serch yw'r Doctor (1960), Yn y Trên (yn Barn, 1965), Cymru Fydd (1967), Problemau Prifysgol (1968), Branwen (1975), Dwy Briodas Ann (1975), Cell y Grog (yn Taliesin, 1975), Excelsior (1980), Y Cyrnol Chabert (1989) ac 1938 (1989); cyhoeddwyd hefyd ei gyfieithiadau o
Molière, Le Médecin malgré lui (1924) a Samuel Beckett, En Attendant Godot (1970). Y mae golygiad cyflawn o'r dramâu gan loan Williams ar y gweill; ymddangosodd y gyfrol gyntaf yn 1996.
Dau gasgliad o farddoniaeth gan Saunders Lewis a gyhoeddwyd hyd yn hyn, sef Byd a Betws (1941) a Siwan a Cherddi Eraill (1956); ymddangosodd cerddi eraill mewn cylchgronau, Y Traethodydd gan amlaf. Casglwyd y cwbl ynghyd yn Cerddi Saunders Lewis (1986), yr ymddangosodd ail argraffiad ychydig yn helaethach ohono yn 1992.
Cyhoeddodd hefyd ddwy nofel, Monica (1930) a Merch Gwern Hywel (1964). Y gyntaf o'i astudiaethau hanesyddol a beirniadol o lenyddiaeth Gymraeg oedd A School of Welsh Augustans (1924) ac fe'i dilynwyd gan An Introduction to Contemporary Welsh Literature (1926), Williams Pantycelyn (1927, ailarg. 1991), Ceiriog (1929), Ieuan Glan Geirionydd (1931), Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg (1932, ailarg. 1986), Daniel Owen (1936), Crefft y Stori Fer (1949) a Gramadegau'r Penceirddiaid (1967). Casglwyd ynghyd ei ysgrifau ar bynciau llenyddol yn y tair cyfrol Ysgrifau Dydd Mercher (1945), Meistri'r Canrifoedd (gol. R. Geraint Gruffydd, 1973) a Meistri a'u Crefft (gol. Gwynn ap Gwilym, 1981). Y mae'r olaf yn cynnwys ysgrifau nas cyhoeddwyd o'r blaen ar y ddau fardd Siôn Cent a Gutun Owain. Yn Ati,
Wŷr Ifainc (gol. Marged Dafydd, 1986), casglwyd ynghyd ei ysgrifau ar bynciau iaith, addysg a chrefydd. Hydreiddir gweithiau Saunders Lewis gan gariad at Gymru wedi ei chanfod yng nghyd-destun Ewrop Gatholig. Yr oedd ganddo wybodaeth ddofn o lenyddiaeth Ladin, Ffrangeg ac Eidaleg yn ogystal â Chymraeg a Saesneg. Dylanwadau pwysig cynnar arno oedd W. B. Yeats a J. M. Synge, Maurice Barrès (drwy ei waith fel nofelydd taleithiol) ac Emrys ap Iwan (Robert Ambrose Jones). Ffurfiwyd ei weithiau mwyaf aeddfed i raddau, fodd bynnag, gan feistri mawr yr Adfywiad Catholig yn Ffrainc yn ystod yr ugeinfed ganrif, sef Paul Claudel, François Mauriac, Étienne Gilson a Jacques Maritain; a hefyd gan yr haneswyr a'r beirniaid llenyddol o'r Eidal, Francesco de Sanctis a Benedetto Croce. Canfu Saunders Lewis yn gynnar fod llenyddiaeth
Cymru ar ei gwychaf yn ystod y canrifoedd Catholig diweddar, a gwnaeth fwy nag unrhyw feirniad arall i ddangos dyfnder meddwl yn ogystal â cheinder mynegiant cywyddwyr mawr y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed ganrif; yn eu gwaith gwêl gorff o fawl i'r byd creedig nad oes mo'i hafal yn holl lenyddiaeth Ewrop. Ond ni fu'n brin o werthfawrogi llenorion Cymraeg wedi'r Diwygiad Protestannaidd ychwaith, er iddo dybio bod y traddodiad y gweithient hwy o'i fewn wedi'i lastwreiddio'n sylweddol. Yn aml ei astudiaethau ef o feirdd ac awduron rhyddiaith unigol a ddatgelodd am y tro cyntaf eu gwir faintioli.
Fel dramodydd y gwnaeth ef ei hun ei gyfraniad pwysicaf i lenyddiaeth Gymraeg. Ar wahân i ychydig gomedïau lle y dychenir sefydliadau Cymreig yn dyner ond yn dreiddgar, aeth ei ddramâu i'r afael i themâu dyfnddwys megis gofynion anrhydedd, cyfrifoldebau arweinydd, natur gwleidyddiaeth a'r gwrthdaro rhwng eros ac agape. Gellir tybio i esiampl Pierre Corneille fod yn ysbrydoliaeth i lawer o'i waith pwysicaf. Gallai ddarlunio cymeriad, yn enwedig merched, yn feistraidd; ac y mae ei ddeialog yn cyfuno'n ddi-feth urddas clasurol a naturioldeb llafar.
Ar wahân i Siwan (1956), a ddisgrifiodd fel 'cerdd greadigol', ychydig dros hanner cant o gerddi a gyhoeddwyd gan Saunders Lewis, ond y mae rhai ohonynt yn sicr ymhlith cerddi Cymraeg mwyaf yr ugeinfed ganrif. Ymdriniant, mewn amrywiaeth o fesurau traddodiadol ac arbrofol, ag argyfwng Cymru, gogoniant natur a galwad Duw. Y mae'r gynharaf o'i ddwy nofel, Monica, yn archwilio grym difäol trachwant, ac y mae'r llall, Merch Gwern Hywel, yn astudiaeth o'r modd y cyfunwyd elfennau hen a newydd yn ffurfiant élite Methodistaidd newydd dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg (dyma hefyd thema'r ddrama ddiweddar hyfryd Dwy Briodas Ann).
Golygwyd astudiaethau ar Saunders Lewis yn Gymraeg gan Pennar Davies (1951) a chan D. Tecwyn Lloyd a Gwilym Rees Hughes (1975), ac yn Saesneg gan Alun R. Jones a Gwyn Thomas (1973). Cafwyd monograffau ar y llenor gan Bruce Griffiths (1979, 1989), John Rowlands (1990) a Harri Pritchard Jones (1991). Ystyriwyd agweddau ar ei ddramâu gan J. Ellis Williams (1961), Emyr Humphreys (1979), Ioan Williams (1991) a Hazel Walford Davies (1995). Trafodwyd ei farddoniaeth mewn cyfrol o ysgrifau a olygwyd gan Medwin Hughes (1993). Cyhoeddwyd astudiaethau bywgraffyddol gan Mair Jones (1987) a D. Tecwyn Lloyd (1988), a golygwyd casgliadau gwerthfawr o lythyrau gan Dafydd Ifans (1992) a Mair Jones et al. (1993).
Cyfieithwyd deuddeg o ddramâu Saunders Lewis i'r Saesneg gan Joseph Clancy a'u cyhoeddi'n bedair cyfrol yn 1985; y maent yn cynnwys The Vow (Amlyn ac Amig), The Woman made from Flowers (Blodeuwedd), Treason (Brad), Tomorrow's Wales (Cymru Fydd), The Two Marriages of Ann Thomas (Dwy Briodas Ann) a The King of England's Daughter (Siwan). Cyfieithodd Clancy hefyd ddetholiad o gerddi Lewis a'i gyhoeddi yn 1993.
Daw'r wybodaeth o'r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru: Argraffiad Newydd (gol. Meic Stephens, Caerdydd 1997).
Bras amcan o leoliad y plac a ddangosir ar y map.
Nôl
