Gwilym R Jones - 1903-1993
Cloth Hall, Tal-y-Sarn, Dyffryn Nantlle
Gwilym Richard Jones (1903-93)
Portread o Gwilym R. Jones. Hawlfraint: BBC
Lleoliad y plac: Cloth Hall, Tal-y-Sarn, Dyffryn Nantlle.
Bras amcan o leoliad y plac a ddengys.
Bardd a newyddiadurwr a aned yn Nhal-y-sarn, Caern. Dechreuodd fel gohebydd ar staff Yr Herald Cymraeg yng Nghaernarfon, yna bu'n olygydd Herald Môn, Y Brython a'r North Wales Times. Daeth yn olygydd Baner ac Amserau Cymru yn 1945 a pharhaodd yn y swydd hyd nes iddo ymddeol yn 1977. Fel bardd yr oedd yn grefftwr profiadol yn y mesurau caeth, ond ef hefyd oedd un o'r rhai cyntaf i arbrofi gyda'r mesur penrhydd yn y Gymraeg, a pharhaodd i gyfansoddi'n gyson yn y naill arddull a'r llall. Cyhoeddodd bum cyfrol o gerddi: Caneuon (1935), Cerddi (1969), Y Syrcas (1975), Y Ddraig (1978) ac Eiliadau (1981). gyda Huw T. Edwards, Mathonwy Hughes a Rhydwen Williams, cyfrannodd gerddi i'r gyfrol Ar y Cyd (1958). Cyfansoddodd ryddiaith greadigol hefyd. Effaith cyni ac erchylltra'r Rhyfel Byd Cyntaf ar gymdeithas y chwarelwyr yn Nyffryn Nantlle yw testun ei ddwy nofel fer, Y Purdan (1942) a Seirff yn Eden (1963). Enillodd Gwilym R. Jones y Gadair (1938), y Goron (1935) a'r Fedal Ryddiaith (1941) yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Ceir arolwg o'i waith gan Mathonwy Hughes yn Awen Gwilym R. (1980); gweler hefyd hunangofiant Gwilym R. Jones, Rhodd Enbyd (1983), a'r erthygl gan Mathonwy Hughes yn Dyrnaid o Awduron Cyfoes (gol. D. Ben Rees, 1975). Gweler hefyd yr erthygl gan John Roberts Williams yn Taliesin (cyf. LXXXIII, 1993).
Daw'r wybodaeth o'r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru: Argraffiad Newydd (gol. Meic Stephens, Caerdydd 1997).
Nôl
