Tomi Evans - 1905-1982
Blaenffynnon, Tegryn, LlanfyrnachBardd a aned ym mhentref Tegfryn, Llanfyrnach, Penfro. Bu'n gweithio fel chwarelwr am flynyddoedd, ac wedyn aeth i weithio i gwmni o adeiladwyr. Enilliodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol [Rhydaman] yn 1970, a chyhoeddodd un gyfrol o'i farddoniaeth, Y Twrch Trwyth a Cherddi Eraill (1983), cyfrol sy'n arddangos ei fedrusrwydd mawr fel bardd cynganeddol. Brawd iddo oedd David Gwyn Evans.
Daw'r wybodaeth o'r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru: Argraffiad Newydd (gol. Meic Stephens, Caerdydd 1997).
Gosodwyd y llechen goffa ar wal Blaenffynnon, Tegryn, lle ganed Tomi Evans a lle bu'n byw ar hyd ei oes. Fe'i dadorchuddiwyd gan yr Archdderwydd presennol, Jim Parc Nest ddydd Sadwrn 21 Mai, 2011.
Bras amcan o leoliad y plac a ddangosir ar y map.
Nôl
